Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 10 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10:15 - 11:50 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Elin Jones Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Byron Grubb, Cadeirydd, Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan Catherine O’Sullivan, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Llinos Dafydd (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Nid oedd dirprwy.
2. Y dull o ystyried deddfwriaeth
2.1 Nododd y Pwyllgor y papur a thrafododd ei ddull cyffredinol o ystyried deddfwriaeth.
2.2 Mewn perthynas â’r papur gwyn ar roi organau, cytunodd y Pwyllgor i geisio cynnal dwy sesiwn gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, yn gyntaf ar ddechrau’r broses ymgynghori ac eto ar ôl cau’r ymgynghoriad. Diben y sesiynau hyn fyddai cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y papur gwyn, yn hytrach na mynegi barn ar ei gynnwys.
3. Ymchwiliad i gyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yn Nghymru - tystiolaeth gan Gyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan
3.1 Atebodd y tystion gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor am gyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr adolygiad o wasanaethau fferylliaeth.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5.
5. Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - trafodaeth breifat am y prif faterion
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur ar y prif faterion ar gyfer yr ymchwiliad i leihau’r risg o strôc. Cytunodd y byddai’n ystyried prif negeseuon ac argymhellion y papur yn y cyfarfod nesaf.
6. Papurau i'w nodi
6.1 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n parhau i gael cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel papurau i’w nodi, ac y dylai Aelodau hysbysu’r Clerc am unrhyw faterion y maent am eu codi mewn perthynas â nhw.
6.2 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr oddi wrth y Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb am eli haul ar gyfer plant dan 11 oed. Cytunodd y Pwyllgor bod y ddeiseb yn fwy perthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy’n gyfrifol am faterion iechyd plant.
6.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion.
6.4 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith hyd at doriad y Nadolig.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.